Mae’n well gen i fod tu allan na thu mewn. Yn fy mhlentyndod, roeddwn i wrth fy modd yn y goedwig, ar anturiaethau bore Sadwrn gyda fy ffrindiau, ac fel tiriogaeth bersonol fy nghrwydro hanner nos.
Ambell waith yn fy arddegau cynnar, tra bod fy mam a fy chwaer yn cysgu, fyddwn i’n sleifio allan a cherdded y ddwy filltir i ysgol. Ychydig y tu hwnt i’r cae chwarae mae coedwig lle fydda i’n dod o hyd i’r man tywyllaf, ac yn eistedd yno, wedi ‘nghuddio gan y nos amddiffynnol. Y peth mwyaf brawychus oedd cerdded yn ôl adref drwy’r ystâd gyngor lle roeddwn i’n byw. Roedd 3yb yn Queens Park yn lle blêr, yn enwedig ar benwythnos.
Fel dyn ifanc, roeddwn i dal yn awyddus i fod allan yn y bryniau a’r mynyddoedd. Dwi wedi cerdded milltiroedd yn yr ucheldiroedd mewn esgidiau trymion, trenyrs a hyd yn oed sandalau, weithiau’n cysgu allan ar y rhostiroedd llwm neu yng ngheunentydd coediog Eryri. Erbyn heddiw, dwi’n gerddwr ci anturus, yn dilyn llwybrau’r coed mor bell ag y gallaf a’r traethau i’w nunlle naturiol.
Pan fydda’i allan, gyda lwc caf ddod o hyd i ddarn o englyn neu sgrap o delyneg, weithiau cynlluniau gwallgof ar gyfer nofelau sci-fi neu ffyrdd cudd i mewn i beth bynnag dwi’n ymchwilio’r diwrnod hwnnw.
(Lle mae’r hen drac yn llacio, âf o raid i’r fron i ymlwybro. I lethr wen, i gil a thro, âf innau’n araf yno.)
A phan nad ydi’r mwydro’n tynnu gormod ar fy sylw, fydda i weithiau’n cael fy hun ym ‘meddwl’ y lle. Mae’n ymddangos i mi fod gan anialdir gwâr Cymru ei syniadau ei hun am bethau. Mae ganddo feddyliau hir, cylchol, syml ac anochel. Mae rhai am fywyd yn codi ac yn brasgamu yn ei flaen, eraill am hedyn sy’n ddwfn ym medd y ddaear, yn y pridd fydd yn ein hadennill ni i gyd. Mae eraill am un corff, a hithau’n feichiog gyda’r cylch cyfan.
Ac nid fi ydi’r unig un sydd wedi clywed myfyrdodau o’r fath yn y mynyddoedd. Mae hen stori Gwion Bach hefyd yn sôn am yr un troi dwfn. Dygodd Gwion flas o bair Ceridwen, trwyth y wrach, yr awen bêr. Yn y weledigaeth oedd i ddilyn cymerodd ddracht enfawr o wybodaeth gosmig. Yr oedd yn gwybod, ac felly’n gwybod gyda sicrwydd ofnadwy bod yr hen wrach am ei flingo’n fyw.
Ond yng ngafael y grym dwyfol hwnnw, daeth o hyd i gyfrinach ei wneuthuriad ei hun: pŵer hynafol trawsnewid, y dychymyg eithaf. A thrwy’r gallu hwnnw, ffodd rhag enbydrwydd Ceridwen yng nghyrff sglyfaethod chwim ac ysgafn, gan ddianc o drwch blewyn pob tro. Ond gydag oer fwriad, daeth Ceridwen a’i fwyta — ef yn ronyn o wenith aur, hithau’n iâr ddu, erchyll.
A chafodd Gwion ei dreulio, ei ddadansoddi i ddim. Wedi cymryd ei fywyd, consuriodd y ddewines, beichiogi, a naw mis yn ddiweddarach rhoi geni i faban gloyw glân oedd yn gyforiog o greadigrwydd anfeidrol, eisoes yn bennaeth ar holl feirdd y Gorllewin. Ar ôl ei ffoi enbyd, ei farwolaeth sicr a’i ddadeni cyfrin, fel Taliesin nawr, roedd y baban yn cofio, ac yn gwybod yng nghrombil ei fod holl droadau Natur.
Dwi’n meddwl am yr hen chwedl weithiau wrth i mi gerdded tymhorau fy nghartref. Dwi wedi ystyried yn aml sut y caf innau hefyd fy nhynnu allan i’r byd, fy nhywys gan atgofion neu berthnasau a dorrwyd peth amser yn ôl. Pan fydda’i ddigon dewr (yn gyfyng fel ydw i) i fentro allan i gwrdd â’m bodolaeth fer, i droi efo’r holl fywyd, gwelaf fod rhyw ddaioni i’w gael allan yma.
Ffolineb, mi wn. Ar yr un ennyd dwi’n synhwyro fy ngheiniog fy hun yn troelli yn ei wyriad entropig. Ar y llechweddau gwag lle nad oes gelwydd, dwi’n cael fy hun yn hela’r carw gwyn ac eto’n ffoi gyda hi hefyd. Fedra’i ddim gwneud llawer mwy o synnwyr na hynny, mae gen i ofn. ‘Does dim rhesymu â’r hen Geridwen.


