Pan gafodd ffrindiau i mi eu plentyn cyntaf aeth ychydig o bethau trwy fy meddwl: ‘Am gyfnod gwallgof i gael dy eni!’ ac yna ‘Pa fath o fyd ydan ni’n creu i’n plant?’
Nid fi ydi’r cyntaf ac yn sicr nid fi fydd yr olaf i sylwi gymaint mae’r byd wedi newid. Ychydig yn iau na ‘mhlant innau, bydd y babi newydd yn tyfu i fyny mewn byd sydd wedi’i ddigideiddio’n llwyr, mewn diwylliant technolegol sydd wedi hen adael fy nghenhedlaeth cyn-ryngrwyd i yn y llwch.
Mae rhieni’r babi newydd ill dau yn bobl ymarferol gyda llawer o brofiad yn gwneuthuro a thyfu pethau. Mae’n anorfod felly byddai yntau hefyd yn etifeddu rhai o’r sgiliau hynafol hynny a berffeithiwyd gan ddynoliaeth dros y milenia.
Ond beryg caiff y genhedlaeth newydd eu dallu gan ddisgleirdeb y bywyd digidol. Yn ei gorddi di-baid, mae’r hen gelfyddydau’n colli gafael, yn ein rhan ni o’r byd o leiaf.
Ac wrth gwrs, mae’n gleddyf daufiniog. Rydan ni’n doreithiog mewn cyfrifiaduron a lloerennau, ac felly mae sgiliau prin fel cynhyrchu cerddoriaeth, golygu fideo a delweddau wedi eu democrateiddio, yn rhoi galluoedd hollol i’r to iau. Bydd y genhedlaeth nesaf yn dweud wrth y cyfrifiadur pa fath o gerddoriaeth maen nhw am ei gyfansoddi. Brin fydd angen iddyn nhw drin offeryn go iawn.
Eisiau solo gitâr sy’n swnio fel Jimi Hendrix? Llefarwch eich dymuniadau a bydd y peiriant yn rhoi dewis o sawl un i chi. Erbyn heddiw, gallwn ofyn i gyfrifiadur ysgrifennu stori (yn Saesneg o leiaf), neu wneud ffilm yn dilyn pa bynnag naratif y dymunwn. A dim ond y dechrau ydi hynny. Mewn ychydig flynyddoedd, bydd y gyfradd o greu ar lefel y gellir ond ei dychmygu gan ddealltwriaeth artiffisial.
Ac ar y llaw arall, bydd llawer o’r hen gelfyddydau analog (yr ôl-gatalog o glasuron di-rif sydd ychydig gwell na bwyd moch i AI) yn methu i gynnal eu perthnasedd. Mae nifer mwy o’n sgiliau ymarferol mewn perygl o fynd yr un ffordd â throelli (gwlân, cofiwch) neu ffotograffiaeth ffilm, dim llawer gwell na hobïau a difyrion penwythnos.
Dydi’r aeddfedrwydd sy’n dod o ymroi i ddisgyblaeth ymarferol ddim wedi diflannu, ymhell ohoni, ond bydd rhain yn nodweddion prinnach fyth, yn enwedig yn y celfyddydau. Wedi i grefftwyr dreulio cenedlaethau’n perffeithio’r safonau uchaf, rydan ni ar drothwy oes pryd caiff pawb gonsurio’r celfyddydau coethaf o ddim.
Ac eto, fedra i ddim digalonni’n llwyr ‘chwaith. Gallu gwireddu dy weledigaeth greadigol trwy wneud dim ond siarad â chyfrifiadur? Dyna fyd cyffrous i fyw ynddo.
Mae anghofio am y pethau sydd wedi’u hawtomeiddio yn rhan o’n traddodiad hefyd. Onid ydi’r peiriant golchi’n beth anhygoel? Roedd ein neiniau a’n teidiau’n gwerthfawrogi eu teclynnau mewn ffordd sy’n anodd i ni ddeall.
Dwi’n gobeithio bydd y diwylliant newydd yma’n bodloni eneidiau ein plant; grymuso’u hawen, nid eu camarwain yng nghors y lledrithiau mwy.
Er lles ein plant ni i gyd, dwi’n gobeithio y gwyddon nhw beth ydi hi i wneud rhywbeth hardd â llaw, i gymryd amser i feithrin dawn yng nghof y corff, i sylweddoli’r ddawn honno trwy amynedd, ac i ddysgu trwy brofiad sut i fireinio a gwneud rhywbeth cain a theg.


