Diolch yn fawr iawn i chi gyd am ddod yma heddiw.
Dydi geiriau byth yn ddigon ar achlysur fel hyn. Sut mae casglu bywyd rhywun i mewn i ychydig frawddegau? Er mor anodd ydi hynny, mae dal yn fraint cael gwneud ar gyfer Huw.
Bu’n fab, yn frawd, yn ewythr, fe fuodd yn ŵr, a bu’n gyfaill.
Roedd o’n ddyn medrus a gwybodus. Wn i ddim os welsoch chi erioed unrhywbeth o’i waith llaw, ond roedd ganddo’r gallu i greu pethau cain tu hwnt.
Roedd o’n garedig hefyd, gyda’i wybodaeth a’i amser. Roeddwn i’n gallu troi at Huw am gyngor ar bron iawn unrhywbeth ymarferol a chael ateb parod pob tro. A dyna fel oedd o hefyd, dyn ymarferol.
Roedd Huw yn addfwyn, ac os oedd yr hen ddywediad am fwynder Maldwyn yn wir am unrhyw un ohono ni, roedd o’n wir am Huw. Er iddo dreulio’r rhan fwyaf o’i oes yn bell o’i fro enedigol yn Nyffryn Banw, i’r canolbarth y dychwelodd yn y pen draw.
Roedd o’n caru awyr agored ucheldir Nant-y-Moch. Roedd o’n caru symlrwydd y tir gwyllt a’r llynnoedd o amgylch Pumlumon. Dwi’n meddwl roedd ei hoff lefydd yn cynnwys y rhostir eang a chynhesrwydd a chymdogaeth y dafarn.
Fel dwi’n siwr bydd nifer ohonoch chi’n gwerthfawrogi, ‘doedd Huw ddim eisiau ffys. Dwi’n cofio ei Nadolig cyntaf yn Llanidloes. Roedden ni wedi gwneud cerdyn Nadolig teuluol ac eisiau anfon un ato. Wedi holi am ei gyfeiriad newydd, daeth yr ateb i beidio boddran gyda cherdyn. Doedd o ddim eisiau i ni wneud ffys. Felly dyma ni’n argraffu cerdyn Nadolig enfawr iddo; roedd rhai ohono ni eisiau gwneud ffys o’r dyn caredig yma.
Mae ganddo ni i gyd atgofion da am Huw. I’r rheiny oedd agosaf ato, ei deulu, ei ffrindiau i gyd yn Llanidloes: Enid, Nia, Alison, Rhys, Jên, Justin, daliwch ymlaen i’r atgofion yna. Dyma’r gorau ohono.
Boed i ti orffwys mewn hedd, Huw.


