Cychwynnais ar yr albwm yn ôl yn Hydref 2023, ond mae mwy o ganeuon yn dod o hyd. Cawn weld beth a ddaw dros y cyfnod nesaf.
Benthyciais y teitl o ddrama Y Tŵr gan Gwenlyn Parry (1978). Bu’r rhan fwyaf o blant ysgol Cymru yn ei hastudio rywbryd yn ystod y degawdau diwethaf, a finnau’n un ohonyn nhw.
Mae’r ddrama’n dilyn dau gymeriad dienw, dosbarth gweithiol, trwy dair act: ieuenctid, canol oed, a dirywiad. Am eu bod yn ddienw, maen nhw’n gyffredin: ildio a wna eu delfrydiaeth gynnar i ymdrechion y degawdau canol, a hynny’n troi’n fusgrellni yn y pen draw.
Fe’m swynodd yn llwyr yn fy arddegau, ond roeddwn rhy ifanc i amgyffred â hi mewn gwirionedd. Wrth ddychwelyd ati’n awr, a finnau’n ganol oed, rwy’n synnu at sut mae Parry yn dyrchafu’r cyffredin heb ei ramanteiddio. Nid dathlu bywyd beunyddiol a wna o reidrwydd, ond rhoi iddo’i lawn bwysau. Mae’n ein hatgoffa mai dyma yr ydym yn byw ynddo mewn gwirionedd, o ddydd i ddydd.
O weld cyflwr y byd heddiw, hawdd yw teimlo nihiliaeth yn tynnu. Rwyf innau wedi ei brofi: pam trafferthu? pam hidio, pam dioddef realiti, a ninnau’n gallu ymguddio mewn rhithiau tlysach? Ond wrth wylio dau fywyd cyfan yn datblygu, eglura’r ddrama mai dyma sydd gennym. Felly nid pam? ydi’r cwestiwn cymaint â faint wyt ti’n fodlon bod yma?
Dyma’r syniad tu ôl i’r albwm. Fel yn y ddrama, mae pob trac yn ystafell wahanol. Ond nid dyddiadur o’m bywyd yn union, ond casgliad o lefydd y bûm yn byw ynddynt. A phan edrychaf yn ôl, nid fy stori i yn unig fu hi. Pobl eraill a gymerodd y rhan fwyaf o’r prif rannau, a chefais fy newid gan eu llinellau nhw gymaint â’m rhai fy hun.
Nid dadl breifat â marwoldeb yn unig ydi fy awydd i greu. Mae’n ymateb i’r bywydau o’m cwmpas, yn enwedig y rhai a garaf. A’r hynaf ydw i, mwyaf oll y mae hynny’n lliwio popeth.
Byr efallai yw ein hamser, ond mae’n bywydau wedi eu plethu. Cludwn ddarnau o straeon pobl eraill. Fe’i derbyniwn a’u trosglwyddo, er gwell neu er gwaeth.
Ac os gall unrhyw beth ddal y darnau hynny i fyny at y goleuni, cân yw honno. Mae’n gallu dianc gafael amser cystal ag unrhyw beth.
